YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL

 

HYDREF 2024

 

 

YMWELIADAU MEWNOL

 

Dim

 

 

 

YMWELIADAU ALLANOL

 

01 Hydref

 

 

 

 

 

17 Hydref

 

 

 

 

 

18 Hydref

 

 

 

 

 

 

 

 

 

25 Hydref

 

 

 

 

 

31 Hydref

 

 

 

 

Ymweliad y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol â Ffrainc

Teithiodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i Toulouse ar gyfer ymweliad deuddydd, gan ymuno â nifer o gwmnïau o Gymru yn ADS Toulouse.

 

Ymweliad y Prif Weinidog â Dulyn

Teithiodd y Prif Weinidog i Ddulyn ar gyfer cyfarfodydd gyda'r Arlywydd Higgins a'r Gweinidog Ryan TD. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfarfod bwrdd crwn gyda Siambr Fasnach Iwerddon Prydain a buddsoddwyr Gwyddelig. 

 

Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Cork ar gyfer Fforwm Gweinidogol Cymru/Iwerddon

Teithiodd y Prif Weinidog i Cork ar gyfer 4ydd Fforwm Gweinidogol Cymru/Iwerddon. Roedd yr ymweliad yn cynnwys cyfarfod dwyochrog gyda'r Tánaiste, ymweliad â Champws Cyber Ireland ym Mhrifysgol Dechnolegol Munster, trafodaethau ar brosiectau ymchwil academaidd Iwerddon/Cymru a daeth y diwrnod i ben gyda chyfarfod y Fforwm i drafod y datganiad a rennir.

Fforwm Cymru-Iwerddon: ymweliad tramor cyntaf y Prif Weinidog | LLYW.CYMRU

 

Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog â Den Bosch, Yr Iseldiroedd

Teithiodd y Dirprwy Brif Weinidog i'r Iseldiroedd i gymryd rhan yn y coffáu i nodi 80 mlynedd ers rhyddhau den Bosch a rôl y 53ain Gatrawd Gymreig wrth ryddhau'r ddinas yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

 

Lleisiau Eraill

Teithiodd y Prif Weinidog i Aberteifi ar gyfer gŵyl ryngwladol Lleisiau Eraill i hyrwyddo Cymru. Agorodd y Prif Weinidog yr ŵyl, cymerodd ran mewn sesiwn Clebran gyda Philip King, cynhaliodd gyfarfod dwyochrog gyda Llysgennad Iwerddon i'r DU a chynhaliodd dderbyniad.